![]() | |
Math | ynys, mynydd, biotope, hermitage church, atyniad twristaidd ![]() |
---|---|
Poblogaeth | 0 ![]() |
Daearyddiaeth | |
Lleoliad | Bae Bizkaia ![]() |
Sir | Bermeo ![]() |
Gwlad | ![]() ![]() |
Gerllaw | Cefnfor yr Iwerydd ![]() |
Cyfesurynnau | 43.447°N 2.785°W ![]() |
Hyd | 0.27 cilometr ![]() |
Cadwyn fynydd | Sollube mountain range ![]() |
![]() | |
Ynys fechan ger arfordir Bae Bizkaia ydy Gaztelugatxe sy'n perthyn i gymuned Bermeo, Gwlad y Basg. Fe'i cysylltir i'r tir mawr gan bont garreg. Ar frig yr ynys saif cell neu gapel meudwy o'r enw Gaztelugatxeko Doniene yn y Basgeg a San Juan de Gaztelugatxe mewn Sbaeneg. Fe'i cysegrwyd i Ioan Fedyddiwr ac mae'n dyddio'n ôl i'r 9fed ganrif. Gerllaw, gorwedd ynys arall, llai o'r enw Aketze, ac fel par o ynysoedd mae nhw'n ffurfio biotôp sy'n ymestyn o dref Bakio hyd at bentir Matxitxako ym Mae Bizkaia.
Yn 1053 y sefydlwyd y capel presennol a hynny gan Arglwydd Bizkaia, sef y don Iñigo López fel cyfraniad tuag at fynachdy San Juan de la Peña ger Jaca yn Huesca. Cafwyd hyd i weddillion cyrff sy'n dyddio'n ôl i'r 9g a'r 12g. Ym 1593 cafodd ei ddinistrio gan Francis Drake. Ar 10 Tachwedd 1978 fe'i dinistriwyd gan dân.
Defnyddiwyd yr ynys wrth ffilmio rhan o gyfres Game of Thrones.
© MMXXIII Rich X Search. We shall prevail. All rights reserved. Rich X Search